18.9.09

Canu gwerin newydd



Oes 'na rywun sydd wedi cael gafael ar y cryno-ddisg newydd Cymraeg yng nghyfres y Smithsonian Folkways?

Dyma ddolen at y manylion.

Dydw i ddim wedi cael copi fy hun eto, ond mae'n swnio'n arbennig o dda, ac amrywiaeth hynod o artistiaid arno (o Ceri Rhys Mathews i Julie Murphy i Max Boyce... ie - Max Boyce!). Mae'n debyg, o'r hyn glywais i, fod y casgliad yn werth ei gael, a'r llyfryn sy'n mynd gyda'r CD yn swmpus a da hefyd.

17.9.09

Cysill ar-lein


Yn ogystal â bod Google yn cyfieithu i'r Gymraeg, mae Cysill bellach ar gael ar-lein hefyd (i gywiro'r Gymraeg honno efallai): dyma'r ddolen, a diolch i Vaughan Roderick am dynnu sylw at y ffaith yma.

6.9.09

Rhai Datblygiadau Diddorol


Wn i ddim faint ohonoch chi a sylwodd fod Google wedi rhyddhau meddalwedd sy'n cyfieithu o'r Gymraeg. A dweud y gwir, mae'n weddol dda. Y Gymraeg yw'r iaith ddiweddaraf i dderbyn sylw Google, am wn i, ac mae'r rhestr o ieithoedd eraill yn gymharol hir.

Os defnyddiwch chi'r teclyn ar y dde, fe welwch gyfieithiad o'r tudalen yma! Mae'n amlwg fod ambell i broblem, ond mae'n rhywbeth fydd yn gwella gydag amser, mae'n siwr.

Ar yr un pryd, dyma'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn cyhoeddi na fyddan nhw'n parhau i ddarparu cofnodion dwyieithog. Mae hyn wrth reswm wedi creu storom o drafodaeth yng Nghymru. Am sylwadau yn dilyn yr helynt, ewch draw at flog Vaughan Roderick o'r BBC. Hefyd, dyma ddolen at gyfweliad da iawn gyda'r bargyfreithiwr Gwion Lewis.

Beth ydych chi'n meddwl? Ai'r economi yw'r peth pwysicaf yn yr achos yma?

21.8.09

pwynt gramadegol

Sut mae Aled,

Pam wyt ti'n dweud "ei" yn y frawddeg 'ma:

Beth wyt ti'n trio ei ddweud?

Chwedleuwr

18.8.09

Dadansoddi Brawddeg

Des i o hyd i’r frawddeg hon, wrth ddarllen “Clywed Cynghanedd” a chan imi fethu â'i deall hi, penderfynais ei dadansoddi ar y blog.

Cywiriadau, os gweli di’n dda.

“Yr hyn ddigwyddodd oedd bod gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau ac wedi mynd i’r afael a hi oherwydd ei harddwch a’i hud.”

Yr--y fannod
hyn--goddrych, rhagenw dangosol trydydd person unigol
ddigwyddodd--3ydd person unigol, gorffennol
oedd--berf bod, amherffaith, traethiadol
bod--cyflwyno cymal enwol
gwahanol--ansoddair yn goleddfu "feirdd"
feirdd--goddrych, enw lluosog
wedi--ategydd berfol gorffenol
sylwi--berfenw
ar--adroddiad
y--y fannod
gynghanedd--gwrthrych enw unigol benywaidd
naturiol--ansoddair yn goleddfu "cynghanedd"
oedd--berf "bod" ffurf berthynol
yn--ategydd berfol
digwydd--berfenw
mewn--adroddiad cyn enw amhendant
gwahanol--ansoddair yn goleddfu'r gwrthrych
glymiadau—treiglad meddal yn dilyn ansoddair, gwrthrych lluosog yn dynodi rhif
o--arddodiad rhwng dau enw
eiriau—treiglad meddal yn dilyn arddodiad, enw lluosog
ac--cysylltair
wedi--ategydd berfol gorffenol
mynd--berfenw
i'r--arddodiad collnod fanned
afael--enw, gwrthrych
â--arddodiad
hi--rhagenw ategol
oherwydd--arddodiad
ei--rhagenw 3ydd person unigol
harddwch--enw
a--cysylltair
'i--rhagenw mewnol
hud--enw

Yr hyn ddigwyddodd--prif gymal
oedd--berf gwpladol
bod--cyflwyno cymal mewnol
gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol--cymal enwol
oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau--cymal perthynol (goddrych cynghanedd)
ac wedi mynd i'r afael â hi--parhad cymal enwol (goddrych beirdd)
oherwydd ei harddwch a'i hud--ymadrodd arddodiadol

11.8.09

Post gramadegol

Rydw i'n adolygu darn ac mae'r ffurf wreiddiol Gymraeg yn fy ngadael mewn ansicrwydd sut i gyfieithu'r ymadrodd "in grammar and mutations." Fydden ni'n dweud: "Cawsom ymarferion mewn gramadeg a threigladau" neu "Cawsom ymarferion yng ngramadeg a threigladau?" Diolch.

Neb?

10.8.09

cof gorau - cof y golau

Diolch am yr "hover text" Aled! Mae o'n ddefnyddiol ac yn hawdd i ddarllen.
Dw i'n cofio yr Eisteddfod orau -- gyda dawnsio "cowboi" y tiwtoriaid ... roedd o'n arbennig iawn!